• Prosiectau a Phartneriaethau

  •  Read in English

    Trwy Brosiect Cysylltu Cymunedau yng Nghymru, rydyn ni wedi gallu gwella cysylltedd a hygyrchedd i gymunedau ledled Cymru. Trwy greu partneriaethau newydd ac arloesol, yn ogystal â chynorthwyo darparwyr cludiant cymunedol i ganfod cyllid ar gyfer prosiectau newydd, rydyn ni wedi sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gallu cadw cysylltiad â’r bobl a’r lleoedd sy’n bwysig iddyn nhw.

    Prosiectau rydyn ni wedi’u cefnogi

    Rydyn ni wedi gweithio gyda darparwyr cludiant cymunedol sy’n bodoli, yn ogystal â phobl mewn cymunedau ledled Cymru sydd am sefydlu cynlluniau cludiant cymunedol newydd, i gael y cyllid, y gefnogaeth a’r arbenigedd sydd eu hangen arnynt i gysylltu eu cymunedau. Yn dilyn, mae manylion rhai o’r prosiectau newydd sydd wedi’u sefydlu neu sydd wedi cael cyllid fel rhan o Cysylltu Cymunedau yng Nghymru:

    Bws y Banc

    Un o’r prosiectau sydd wedi cael cymorth gan Cysylltu Cymunedau yng Nghymru ydy Prosiect Bws Banc Galw’r Gyrrwr Y Gelli. Y sefyllfa anffodus sydd ohoni mewn cymunedau gwledig ledled Cymru yw bod banciau’r stryd fawr a thros-y-cownter yn cau.  Mae poblogrwydd gwasanaethau bancio ar-lein yn golygu bod llai a llai o wasanaethau lleol ar gael i bobl. Dyma sydd wedi digwydd mewn tref farchnad wledig ym Mhowys. Yn 2018, gwelodd Y Gelli Gandryll yr olaf o’i banciau dros-y-cownter yn cau ac fe achosodd hyn gryn bryder i drigolion lleol, yn enwedig pobl hŷn, a oedd yn dibynnu ar y gwasanaeth i wneud eu bancio ac yn cael budd o’r elfen gyfarwydd, wyneb-yn-wyneb a oedd yn rhoi sicrwydd yn y banc lleol.

    Hyd yn hyn, mae’r prosiect wedi cynorthwyo dros 300 o bobl i gael mynediad at wasanaethau bancio dros y cownter nad ydynt wedi bod ar gael yn y Gelli ers 2018. Yn dilyn cynllun peilot cychwynnol ac arolwg teithwyr, a amlygodd angen penodol i bobl yn y gymuned gael mynediad at wasanaethau bancio a gwasanaethau eraill, cyflwynodd Galw’r Gyrrwr Y Gelli a thîm Cysylltu Cymunedau yng Nghymru gais llwyddiannus am gyllid i gronfa Arian i Bawb Y Gronfa Loteri Fawr. Golygai hyn y gallent ddarparu gwasanaeth Bws y Banc am ddim yn fisol ac mae hynny wedi bod o fudd mawr i’w teithwyr, gan ei fod yn darparu mynediad i fanciau a gwasanaethau hanfodol eraill ac yn lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd.

    Rhagor o wybodaeth 

    Prosiect Cydgysylltu

    Y llynedd, daeth Canolfan Gymunedol Gellifedw a Chymdeithas Henoed Gellifedw a leolir yn sir gyfagos Abertawe i gysylltiad â Chludiant Cymunedol Castell-nedd Port Talbot, sy’n aelod o’r CTA.  Roedd y grwpiau cymunedol lleol yn bryderus iawn eu bod yn colli eu gwasanaeth bws lleol – colled a fyddai’n cael effaith andwyol ar y bobl a oedd yn dibynnu arno. Byddai colli’r gwasanaeth yn cael fwyaf o effaith ar bobl hŷn, pobl anabl a rhai sy’n agored i niwed gan ei bod yn llai tebygol bod ganddynt gar a byddent yn sicr yn dioddef i raddau gwaeth gydag unigrwydd, arwahanrwydd a cholli annibyniaeth.

    Gyda chymorth prosiect Cysylltu Cymunedau yng Nghymru, aethant ati i chwilio am gyllid i dalu costau cynnal ac ymestyn y gwasanaeth. Erbyn mis Ionawr 2020, roeddem wedi gweithio gyda’n gilydd i ganfod cyllidwr addas ac wedi cynorthwyo’r prosiect i ysgrifennu cais am gyllid i Gronfa’r Loteri Fawr ac o ganlyniad, roedd CCCNPT wrth eu bodd o glywed eu bod wedi llwyddo i gael buddsoddiad o £10,000 a fyddai’n galluogi eu bws Townrider i ddechrau darparu’r teithiau.

    Rhagor o wybodaeth  

     Cynllun Car Cymunedol Conwy Wledig

    Mae Prosiect Ein Cyfle i Deithio yn enghraifft arall sy’n dangos sut mae Cysylltu Cymunedau wedi helpu i gyllido cynlluniau cludiant cymunedol newydd mewn ardaloedd ble roedd y gymuned yn wynebu anawsterau. Yn ystod haf 2018, wedi iddo gyflwyno cwrs hyfforddi MiDAS i grŵp o yrwyr gwirfoddol, cafodd rhywun air â’r hyfforddwr, sef rheolwr datblygu Cludiant Cymunedol Dolen Teifi, Rod Bowen, ynghylch diffyg cludiant grŵp cymunedol fforddiadwy a hygyrch yn Rhydaman.

    Dywedwyd wrth Rod nad diffyg gwasanaeth cludiant cymunedol yn unig oedd y prif rwystr oedd yn wynebu pobl yn ardal Rhydaman wrth geisio mynychu cyfleoedd cymdeithasol a chyfleoedd eraill, ond bod diffyg trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy a hygyrch yn y lle cyntaf, a bod hynny’n golygu bod mwy fyth o angen am gludiant cymunedol.

    O’r fan honno, dechreuodd Dolen Teifi ymgynghori ag unigolion allweddol, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid eraill yn Rhydaman, yn ogystal â thîm Cysylltu Cymunedau yng Nghymru y CTA. Roeddem yn gallu cynorthwyo Dolen Teifi i bennu hyd a lled prosiect a fyddai’n llenwi bwlch yn y ddarpariaeth cludiant cymunedol yn Rhydaman, yn ogystal â’u helpu i ddatblygu ac ysgrifennu cais am gyllid gan gynllun grant Pawb a’i Le y Loteri Fawr.

    Rhagor o wybodaeth  

    O Ddrws i Ddrws 

    Mae Prosiect Ffyrdd at Les sy’n cael ei redeg gan O Ddrws i Ddrws yn wasanaeth cludiant cymunedol hyblyg, o ddrws i ddrws, sy’n galluogi pobl i fynychu apwyntiadau meddygol hanfodol, mynd i gael trin eu gwallt, mynd i’r banc neu gymdeithas adeiladu, siopa yn yr archfarchnad neu fynychu gweithgareddau a grwpiau cymdeithasol. Daeth y prosiect yn fyw ar ôl cael bron i £100,000 o gyllid gyda chymorth tîm Cysylltu Cymunedau yng Nghymru.

    Rhagor o wybodaeth 

    Collaborative Communities 

    Yn aml gall bod yn aelod o grŵp cymunedol, cymdeithas neu glwb lleol roi ymdeimlad o berthyn i bobl. Trwy ddod ynghyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau neu fynychu diwrnodau allan, mae bod yn aelod o grŵp cymunedol yn rhoi cyfle i bobl sydd â diddordebau tebyg ddod at ei gilydd, treulio amser gyda’i gilydd a mwynhau cwmni ei gilydd.

    Mae Cymunedau Cydweithredol yn brosiect ar y cyd rhwng Cysylltu Cymunedau yng Nghymru, Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO), Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) a Chludiant Cymunedol Dolen Teifi, ac mae’n darparu gwasanaeth cludiant cymunedol pwrpasol ar gyfer grwpiau cymunedol yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae’r prosiect yn cynorthwyo darparwyr cludiant cymunedol ledled Dyfed i ddatblygu eu gwasanaethau cludiant grŵp cymunedol eu hunain a thrwy wneud hynny, mae’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i wella ansawdd bywyd a lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd ymhlith pobl sy’n byw yng Ngorllewin Cymru.

    Rhagor o wybodaeth

    Clwb Cinio Cyfeillion Forge Fach

    Mae Canolfan Gymunedol Forge Fach yng Nghlydach, Abertawe yn ganolbwynt cymunedol sy’n darparu gwasanaethau a gweithgareddau i drigolion lleol. Er mwyn cymryd camau pellach yn y frwydr i atal pobl rhag bod yn unig ac ynysig yn eu cymuned, cynhaliodd y tîm yn y ganolfan gymunedol glwb cinio peilot i drigolion hŷn yn 2018. Roedd y peilot yn llwyddiant ysgubol a chafodd effaith anhygoel ar les y bobl a fynychodd, gan eu helpu i ddod allan, i gymdeithasu ac i wneud ffrindiau.

    Ond un rhwystr allweddol i barhad y prosiect oedd diffyg cludiant hygyrch, a olygai ei bod yn anodd i bobl fynychu. Yn dilyn cyfarfod cychwynnol, penderfynwyd y byddai tîm Cysylltu Cymunedau yng Nghymru yn diffinio’r costau, yn datblygu cynnig ac yn ysgrifennu cais am gyllid i sicrhau bod gan y grŵp ddigon o gyllid i allu gwneud yn siŵr bod cymaint o bobl leol â phosib yn gallu mynychu, yn arbennig rhai sydd ag anabledd a rhai sy’n byw rai milltiroedd o’r ganolfan.

    Rhagor o wybodaeth

    Darllenwch fwy

    Os ydych chi am gael golwg ar ragor o brosiectau sydd wedi cael cymorth gennym, gallwch weld rhagor o straeon am gymunedau yn sefyll ar eu traed ac yn gwneud gwahaniaeth isod:


    Rhagor o wybodaeth am Gysylltu Cymunedau yng Nghymru

    Mae Cysylltu Cymunedau yng Nghymru wedi derbyn cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.