• Sesiwn galw heibio CTA yn San Steffan i ASau Cymru

    • Blog
    • »
    • Sesiwn galw heibio CTA yn San Steffan i ASau Cymru
    • by Llyr ap Gareth
      Support and Engagement Executive (S Wales) | Gweithredwr Cefnogaeth a Chyfranogaeth (De Cymru)

    Share on:

    Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd CTA sesiwn galw heibio yn San Steffan i ASau Cymru i drafod y materion sy’n effeithio ar y sector cludiant cymunedol ac i hyrwyddo’r gwaith anhygoel y mae ein haelodau’n ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru.

    Diolch yn enfawr i Jessica Morden AS (Dwyrain Casnewydd) a’i swyddfa am helpu i drefnu hyn ac am roi lle inni yn Portcullis House i gwrdd â’i chydweithwyr o Gymru. Hefyd gwnaeth Jessica a’i thîm gyfraniad drwy dynnu lluniau gan fod ein tîm ni’n brysur fel lladd nadredd oherwydd yr holl ddiddordeb a ddangoswyd gan nifer calonogol iawn o ASau Cymru a alwodd heibio.

    Ein nod oedd helpu’r ASau i ddeall yn well y mudiadau sy’n gweithredu yn eu hetholaethau a’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu. Yn benodol:

    • Cefnogi eu dealltwriaeth o’r bygythiad sydd i gludiant cymunedol ar hyn o bryd oherwydd newidiadau arfaethedig yr Adran Drafnidiaeth i drwyddedau adran 19 a 22, effeithiau hyn ar eu cymunedau, ac yn eu hetholaethau unigol.
    • Eu hannog i weithredu drwy ymuno â’n hymgyrch #Without CT ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddangos yr effaith y bydd y newidiadau hyn yn ei chael, yn ogystal â dwyn yr Adran Drafnidiaeth i gyfrif yn San Steffan.
    • Dangos, er nad yw trwyddedu cludiant cymunedol yn fater sydd wedi’i ddatganoli, y gallai’r newidiadau hyn gael effaith arwyddocaol ar feysydd polisi datganoledig fel iechyd a gofal cymdeithasol, lles, ysgolion a thrafnidiaeth, ac felly bydd yn cael effaith gronnus ar lwyddiant polisi Llywodraeth Cymru ar draws Rhaglen Lywodraethu Cymru.
    • Helpu ASau i ddysgu rhagor am y mudiadau penodol yn y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu, gan roi cyngor a manylion penodol iddyn nhw am yr effaith y byddai newidiadau’r Adran Drafnidiaeth yn ei chael ar y mudiadau hyn.

    Drwy roi papurau briffio a gwneud cyflwyniadau i ASau yn ystod sesiwn galw heibio awr o hyd, cawson ni drafodaethau gonest a manwl â 15 AS (o gyfanswm o 40 AS yng Nghymru) ar draws pob plaid, ac ymddiheuriadau niferus gan y rhai a oedd wedi’u dal mewn dadleuon eraill. Byddwn ni’n dilyn y rhain ac yn trafod y mater yn fuan â nhw.

    Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gan danlinellu eto’r gefnogaeth drawsbleidiol sydd i gludiant cymunedol yng Nghymru sydd hefyd wedi bod yn amlwg yn y drafodaeth unfrydol yng Nghynulliad Cymru, a’r llythyr gan Ken Skates AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru at Jesse Norman AS am newidiadau arfaethedig yr Adran.

    Edrychwn ymlaen at weld yr ASau a alwodd heibio yn mynd â’r mater ymhellach, ac edrychwn ymlaen at eu cefnogi nhw a’r rhai na allodd alw â thystiolaeth fanwl er mwyn cyflwyno’r achos dros gludiant cymunedol.

    Ddim yn ddrwg am awr o waith!


    Leave a reply

    Your email address will not be published. Required fields are marked *

      • Search Blog
      • /