• Past Events
    • /

Celebrating the Impact of Connecting Communities in Wales

Date: 15th December 2020

Share on:

Celebrating the Impact of Connecting Communities in Wales

Online Event (Zoom) | Tuesday 15 December | 13:00 – 14:00

Join us on 15 December to celebrate the impact of CTA’s Connecting Communities in Wales project. The project was set up in 2017, and over the last three years the team have been working with partners and stakeholders across Wales to create new partnerships, bring new funding into the sector and to create new transport networks that are already having an enormous impact in connecting communities to the people and places they care about.

The project will be ending in December 2020 so we want to take this opportunity to bring together our partners, stakeholders, members and supporters to look at what we’ve achieved together, and to talk about how CTA will continue supporting Wales’ community transport sector in 2021.

We’ll be hearing from the Connecting Communities in Wales project team about what they’ve learned over the past three years, as well as from community transport providers who have been supported in setting up new and innovative services as part of the project.

The event is free to attend, and a link will be sent to registered participants ahead of the event.

Book your place


Frequently Asked Questions

Below are some frequently asked questions for our online events. If you’ve got any questions that aren’t covered here, please don’t hesitate to get in touch with the CTA team via events@ctauk.org.

What medium will the event be taking place in and how will I be able to join?

This is an online event, so you’ll be joining us on Zoom. After you’ve booked your place, we’ll send you a meeting invitation link a few days before the event along with all the details you’ll need to join.

Will I be visible on screen?

Yes – you’ll be able to see everyone involved, and they’ll be able to see you. We’ll have a member of our team facilitating the event and we’d ask that when you’re not speaking, your microphone is muted.

Will I be able to access a recording and any relevant presentations after the event?

Yes – we’ll be making a recording and recap of the event available afterwards, including any slides used by presenters or facilitators.


Dathlu Effaith Cysylltu Cymunedau yng Nghymru

Digwyddiad Ar-lein (Zoom) | Dydd Mawrth 15 Rhagfyr | 13:00 – 14:00

Ymunwch â ni ddydd Mawrth 15 Rhagfyr i ddathlu effaith prosiect Cysylltu Cymunedau yng Nghymru y CTA. Cafodd y prosiect ei sefydlu yn 2017, a thros y tair blynedd diwethaf mae’r tîm wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ledled Cymru i greu partneriaethau newydd, dod ag arian newydd i’r sector, a chreu rhwydweithiau cludiant newydd sydd eisoes yn cael effaith aruthrol trwy gysylltu pobl â’r lleoedd sy’n bwysig iddyn nhw.

Bydd y prosiect yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2020, felly rydym yn awyddus i fanteisio ar y cyfle hwn i ddod â’n partneriaid, ein rhanddeiliaid a’n haelodau ynghyd i gael golwg ar yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd, ac i drafod sut bydd y CTA yn parhau i gefnogi sector cludiant cymunedol Cymru yn 2021.

Cawn glywed gan dîm prosiect Cysylltu Cymunedau yng Nghymru am yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu dros y tair blynedd diwethaf, yn ogystal â darparwyr cludiant cymunedol sydd wedi derbyn cefnogaeth wrth iddynt sefydlu gwasanaethau newydd ac arloesol fel rhan o’r prosiect.

Book your place


Cwestiynau Cyffredin

Isod, mae nifer o gwestiynau cyffredin ynglŷn â’n digwyddiadau ar-lein. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, mae croeso i chi gysylltu â thîm y CTA trwy events@ctauk.org.

Trwy ba gyfrwng fydd y digwyddiad yma’n cael ei gynnal a sut bydd modd i mi ymuno?

Digwyddiad ar-lein ydy hwn, felly byddwch chi’n ymuno â ni trwy Zoom. Wedi i chi gadw’ch lle, byddwn ni’n anfon dolen i wahoddiad i’r cyfarfod atoch chi ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad ynghyd â’r holl fanylion y bydd eu hangen arnoch i ymuno.

Fydda i’n ymddangos ar y sgrîn?

Byddwch – byddwch chi’n gallu gweld pawb sy’n cymryd rhan, a byddan nhw’n gallu eich gweld chi. Bydd aelod o’n tîm ni yn hwyluso’r digwyddiad a byddwn yn gofyn i chi ddiffodd eich meicroffon pan na fyddwch yn siarad.

Fydda i’n gallu cael gafael ar recordiad ac unrhyw gyflwyniadau perthnasol ar ôl y digwyddiad?

Byddwch – byddwn yn sicrhau bod recordiad ac adroddiad o’r digwyddiad ar gael wedyn, gan gynnwys unrhyw sleidiau a ddefnyddiwyd gan siaradwyr neu hwyluswyr.


Event Details /

Date 15th December 2020