-
Dadl cynulliad cymru yn dathlu cludiant cymunedol ac yn galw am ragor o gefnogaeth i’r sector
-
27th March 2018
-
-
by Christine Boston
Director for Wales | Cyfarwyddwr Cymru
Ddydd Mercher 21 Mawrth, daeth aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru at ei gilydd i ddathlu ac i gefnogi cludiant cymunedol. Galwon nhw ar Lywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth gyda’r sector a gyda chyrff cyhoeddus i sicrhau bod cludiant cymunedol yn gallu parhau â’i waith hanfodol, sef darparu gwasanaethau cludiant hygyrch a chynhwysol i bobl agored i niwed mewn cymunedau ledled Cymru.
Wrth agor y ddadl, tynnodd Mark Isherwood AC sylw at amrywiaeth o heriau sy’n wynebu’r sector gan gynnwys trefniadau ariannu tymor byr sy’n rhwystro cynllunio llwyddiannus ar gyfer y dyfodol ac ymgynghoriad cyfredol yr Adran Drafnidiaeth ynghylch trwyddedau adran 19 a 22.
Yn eu cynnig, nododd Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod “cludiant cymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn darparu cludiant i bobl sy’n wynebu rhwystrau i gael mynediad at gludiant preifat a chyhoeddus, yn cynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol ac i gael mynediad at wasanaethau hanfodol, ac ar yr un pryd yn lliniaru materion sy’n gysylltiedig ag unigrwydd ac arwahanrwydd.”
Dathlodd aelodau o bob plaid ymdrechion staff a gwirfoddolwyr cludiant cymunedol yng Nghymru, gan dynnu sylw at enghreifftiau o aelodau’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol, Cludiant Cymunedol Eastvale, Dinas Powys Voluntary Concern, Deial i Deithio Canolfan Bloomfield, Deial i Deithio Sir Ddinbych a rhagor.
Ym Mhowys, er enghraifft, gyrrodd gweithredwyr cludiant cymunedol dros 8,000 o bobl dros 800,000 milltir a darparu 108,000 o deithiau unigol yn y flwyddyn a aeth heibio’n unig. Heb y gwasanaethau hyn, mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Powys yn amcangyfrif y byddai hanner y teithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaethau yn colli eu cludiant gyda bil o £800,000 i’r awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd i ddarparu’r un gwasanaethau.
Roedd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn gefnogol hefyd, a dywedodd ei bod hi’n ddadl bwysig am wasanaeth hanfodol i gymunedau ledled Cymru.
Wrth gyfeirio at gynlluniau ar gyfer strategaeth trafnidiaeth genedlaethol newydd, dywedodd ei fod “yn argyhoeddedig y dylai cludiant cymunedol wneud cyfraniad hanfodol i rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn y dyfodol, ac y bydd yn gwneud hynny.”
Hefyd cadarnhaodd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector i ystyried effaith bosibl newidiadau arfaethedig i’r gyfundrefn trwyddedau cludiant cymunedol yng Nghymru ac y bydd yn gweithio gyda CTA yng Nghymru i ddatblygu cynlluniau wrth gefn er mwyn lliniaru unrhyw effaith negyddol bosibl ar wasanaethau.
Yn olaf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod eisiau “talu teyrnged i’r sector cludiant cymunedol am gadw’r eitem hon ar frig yr agenda drafnidiaeth.”
Ac fel erioed, rydyn ni i gyd yn y Gymdeithas Cludiant Cymunedol eisiau talu teyrnged i’n haelodau sy’n gweithio’n ddiflino er mwyn darparu gwasanaethau cludiant cymunedol bob diwrnod o’r flwyddyn ac i bob un o’r rhai a gyfrannodd i’r ddadl ddoe drwy ysgrifennu at eu Haelodau Cynulliad i sicrhau bod y gwaith caled hwn yn cael ei gydnabod.
Gellir gwylio cynnig y ddadl, a basiwyd yn unfrydol, yma: http://www.senedd.assembly.wales/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=21411
Gellir gwylio’r ddadl yn llawn ar Senedd TV yma: http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/b9d1f87a-80ed-4a7a-9436-5e0ba895f0d0?autostart=True
-
-
- About CTA
- /
- CTA Membership
- /
- Policy & Research
- /
- Advice & Support
- /
- Training
- /
- Events
- /
- /
- Join Now