• Dadl Yn Y Senedd: Helpu Ni I Ddiogelu Trafnidiaeth Gymunedol Yng Nghymru

    • Blog
    • »
    • Dadl Yn Y Senedd: Helpu Ni I Ddiogelu Trafnidiaeth Gymunedol Yng Nghymru
    • by Christine Boston
      Director for Wales | Cyfarwyddwr Cymru

    Share on:

    Gyda’r eira trwm diweddar roedd llawer ohonom wedi’n dal yn ein cartrefi, a felly’n methu gwneud y pethau yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol megis mynd i’r gwaith, i siopa neu i apwyntiadau meddygol. Roedd hyn yn rhoi cipolwg bach ar sut beth yw bywyd dyddiol ar gyfer pobl sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gymunedol i deithio o gwmpas, pe byddai’r gwasanaethau rheini ar gael.

    Gallai hyn ddod yn realiti yng Nghymru cyn bo hir os bydd newidiadau arfaethedig i reoleiddio trafnidiaeth cymunedol ledled Brydain yn dod i rym.  Mae Llywodraeth San Steffan yn cynllunio i newid sut y mae rheolau’r Undeb Ewropeaidd yn berthnasol yma ac am ddechrau trin elusennau sy’n rhedeg gwasanaethau trafnidiaeth fel pe baent yn union fel cwmnïau bysiau.

    Mae tîm Cymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA) yng Nghymru wedi llwyddo i gefnogi Aelodau’r Cynulliad i drefnu dadl ar drafnidiaeth gymunedol yn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  Rydym yn falch o ddweud y bydd y ddadl hon ar brynhawn dydd Mercher 21ain o Fawrth yn y Senedd.

    Bydd y ddadl yn enw Mark Isherwood AC (Ceidwadwyr Cymreig), ac fe’i gefnogir gan Adam Price AC (Plaid Cymru), Dr Dai Lloyd AC (Plaid Cymru), a Suzy Davies AC (Ceidwadwyr Cymru). Rydym yn hyderus bydd y ddadl ei hun yn cynnwys cyfraniadau yn gefnogol i drafnidiaeth gymunedol gan Aelodau Cynulliad Llafur Cymru ac UKIP yn ogystal. Rydym yn gobeithio felly dangos cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y sector yng Nghymru.

    Bydd y ddadl yn edrych yn benodol ar y pryder ynglyn ag ymgynghoriad Adran Cludiant Llywodraeth San Steffan ar drwyddedau trafnidiaeth cymunedol (trwydded adran 19/22) ac effaith bosibl hyn ar wasanaethau yng Nghymru.  Bydd yr Aelodau hefyd yn ystyried ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru helpu i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer y sector cludiant cymunedol ar hyn o bryd.

    Rydym yn annog pobl a sefydliadau sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau yma i gysylltu a’ch Aelodau Cynulliad (ACau) etholaethol a rhanbarthol, a’u gwneud yn ymwybodol o’r trafferthion yr ydych yn debygol o’i wynebu.

    Ydi cludiant cymunedol yn helpu i chi o ran mynd a chwi at iechyd neu gofal? Mynd allan a mwynhau bywyd gyda mwy o weithredoedd a chyfleoedd i fynd allan o’r ty? Cael eich plant i ysgol neu i glybiau chwaraeon ac ati? Beth fyddai effaith arnoch chi, eich teulu, cymuned neu wirfoddolwyr os oedd gwasanaethau o’r fath yn cael eu rhoi mewn perygl? Gadewch i’ch Aelodau Cynulliad wybod!

    Byddem yn awgrymu yn yr e-bost neu lythyr eich bod yn cynnwys ychydig o’r wybodaeth ganlynol:

    1) pwy ydych chi a beth yr ydych yn ei wneud.

    2)Effiath y bydd y newidiadau arfaethedig yn eu gael arnoch chi, eich teulu, neu eich cymuned

    3) Os ydych:

    • yn darparu gwasanaethau cludiant cymunedol – maint eich gwasanaethau, gan gynnwys , os yn bosibl, syniad o faint o’r ardal y mae eich gwaith yn ei gwmpasu, nifer y bobl a wasanaethir gennych chi a’r math o wasanaeth sy’n cael ei gynnig (e.e. trafnidiaeth ysgolion, apwyntiadau iechyd, cymdeithasol, gofal ac ati.).
    • Cynrychioli pobl sy’n defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth cymunedol – disgrifio’r mathau o bobl yr ydych yn eu cynrychioli, y mathau o wasanaethau trafnidiaeth gymunedol, pa weithgaredd a pa wasanaethu y mae’n helpu i bobl gael mynediad iddynt, a phwysigrwydd hyn yn eu bywydau.

    4) unrhyw effeithiau yr ydych yn ymwybodol bod yr ansicrwydd presennol eisoes wedi ei gael ar wasanaethau, cyllid neu gynllunio i’r dyfodol yn y sector.

    5) dwyn perswad ar eich Aelod Cynulliad i fynychu’r ddadl hon i gynrychioli sefydliadau a’r etholwyr a gaiff eu heffeithio gan y newidiadau arfaethedig.

    5) Rhannwch yr e-bost yr ydych yn ei yrru gyda llyr@ctauk.org fel y gallwn ninnau hefyd annog eich Aelod Cynulliad lleol.

    Wrth gwrs, dylech chi deimlo’n rhydd i gynnwys unrhyw bwyntiau perthnasol eich hun, a dylech edrych ar yr e-bost hwn fel un sydd ond yn darparu canllaw awgrymedig.

    Gallwch ddod o hyd i’ch ACau yma:  http://www.assembly.wales/cy/memhome/Pages/memhome.aspx

    Bydd geiriad y cynnig ar gael wythnos nesaf ar wefan y Cynulliad.

    Os ydych wedi ymateb i ymholiadau neu ymgynghoriadau blaenorol ar y mater hwn, gallwch deimlo’n rhydd i ddefnyddio’r un testun eto lle bo hynny’n berthnasol.

    Byddem yn gobeithio gwneud i’n cynrychiolwyr etholedig  fod yn ymwybodol o’r risg i wasanaethau cludiant cymunedol, cryfder y teimlad yn y sector, a’r effaith posibl ar wasanaethau sy’n gweithredu mewn maesydd sydd o dan gyfrifoldeb y Cynulliad Cenedlaethol.

    Bob dydd o’r flwyddyn, mae darparwyr trafnidiaeth gymunedol yn cynnig achubiaeth i bobl mewn cymunedau ledled Cymru a fyddai fel arall yn gaeth i’w tai. Maent yn sicrhau y gall pobl gael gwasanaethau pwysig a chyfleusterau yn ogystal â darparu rhyngweithio cymdeithasol ar gyfer pobl a allai fel arall fod yn unig ac ar ben ei hunain.

    Gobeithio y byddwch yn gallu dod o hyd i amser i wneud yr achos i’ch ACau lleol. Os ydych chi’n credu bod unigolion yr ydych chi’n eu gwasanaethu hefyd am gysylltu gyda ACau eu hunain, mae croeso iddynt roi gwybod i’w AC.

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch sut i fynd ymlaen neu os ydych chi’n ansicr ynghylch unrhyw beth, mae croeso i chi e-bostio ar Llyr@ctauk.org neu Christine@ctauk.org, neu cysylltwch â ni ar y ffôn ar 01792 845877/ 07917 586147.

    Diolch yn fawr am eich cefnogaeth!

    Leave a reply

    Your email address will not be published. Required fields are marked *

      • Search Blog
      • /