• Future of Bus Services in Wales | Ail-Ddychmygu Rhwydweithiau Bysiau Lleol Yng Nghymru

    • Blog
    • »
    • Future of Bus Services in Wales | Ail-Ddychmygu Rhwydweithiau Bysiau Lleol Yng Nghymru
    • by Christine Boston
      Director for Wales | Cyfarwyddwr Cymru

    Share on:

    In Wales, community transport provides vital services to those who find themselves exclude from the mainstream network. This exclusion is often because of an individual’s rurality, their lack of mobility, or a lack of connected transport services. As the Welsh Government launched their consultation on the future of bus services in Wales last month one question has been at the forefront of my mind since:

    How can we make transport in Wales accessible for all 3.6m of Wales’ citizens?

    As the newly appointed Director for Wales at CTA my previous experiences of working in local government, and my time here, has shown me that community transport is part of the answer. With its emphasis on accessibility, the flexibility of services, and the not-for-profit nature of organisations, community transport can reach parts of the country where other operators cannot, and potentially never will.

    The reason I am so excited to get started here is that we have an opportunity work as a sector to genuinely reimagine what a transport network with inclusivity and accessibility at its heart could look like. Over the last few weeks we have been speaking to members on the future of bus services in Wales. Time and time again we were told that we need a transport settlement which; encourages integration, directs state subsidies to marginal services, and allows community transport not just to survive, but thrive as well. Community transport shines on a shoe string. This is our opportunity to put forward the case of the amazing work of our sector.

    You can read our submission to the consultation on the future of Wales’ bus networks here. This is one of three consultations of this type in the coming months, so I would love to hear your thoughts, ideas, and insights, on how we can use our national voice to build a bus network which is truly responsive to the needs of our communities.

    You can contact me at Christine@ctauk.org


    Yng Nghymru, mae cludiant cymunedol yn cynnig gwasanaethau hanfodol i’r rhai sy’n cael eu hunain wedi’u hallgáu o’r rhwydwaith prif ffrwd. Mae’r allgau hwn yn aml oherwydd bod unigolyn yn byw yng nghefn gwlad, oherwydd diffyg symudedd, neu oherwydd bod diffyg gwasanaethau cludiant wedi’u cysylltu â’i gilydd. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi lansio ei hymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yng Nghymru y mis diwethaf, mae un cwestiwn wedi bod ar flaen fy meddwl ers hynny:

    Sut gallwn ni wneud i drafnidiaeth yng Nghymru fod yn hygyrch i bob un o 3.6 miliwn o drigolion Cymru?

    Fel Cyfarwyddwr Cymru sydd newydd ei benodi yn CTA, mae fy mhrofiadau blaenorol o weithio ym maes llywodraeth leol, a’m cyfnod yma, wedi dangos imi fod cludiant cymunedol yn rhan o’r ateb. Gyda’i bwyslais ar hygyrchedd, hyblygrwydd gwasanaethau, a natur ddielw’r cyrff, gall cludiant cymunedol gyrraedd rhannau o’r wlad na all gweithredwyr eraill eu cyrraedd, ac o bosib na fyddan nhw byth yn eu cyrraedd.

    Y rheswm rwyf mor gyffrous i ddechrau yma yw bod gennym gyfle i weithio fel sector i ail-ddychmygu go iawn sut un fyddai rhwydwaith cludiant sydd â chynhwysiant a hygyrchedd yn greiddiol iddo. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf rydym wedi bod yn siarad ag aelodau am ddyfodol gwasanaethau bws yng Nghymru. Dro ar ôl tro dywedwyd wrthym fod angen setliad cludiant sy’n annog integreiddio, sy’n cyfeirio cymorthdaliadau’r wladwriaeth at wasanaethau ymylol, ac sy’n galluogi cludiant cymunedol nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu hefyd. Mae cludiant cymunedol yn disgleirio ar y nesaf peth i ddim. Dyma ein cyfle i gyflwyno achos gwaith anhygoel ein sector.

    Gallwch ddarllen ein cyflwyniad i’r ymgynghoriad ar ddyfodol rhwydweithiau bysiau Cymru yma. Mae hwn yn un o dri ymgynghoriad o’r math hwn yn y misoedd i ddod, felly byddwn wrth fy modd yn clywed eich syniadau a’ch barn, ar sut gallwn ni ddefnyddio ein llais cenedlaethol i adeiladu rhwydwaith bysiau sy’n ymateb yn wirioneddol i anghenion ein cymunedau.

    Gallwch gysylltu â mi ar Christine@ctauk.org


    Leave a reply

    Your email address will not be published. Required fields are marked *

      • Search Blog
      • /