-
Gwella Cludiant Gwledig yng Nghymru
-
19th February 2018
-
-
by Christine Boston
Cyfarwyddwr Cymru | Director for Wales
Mae Christine Boston, Cyfarwyddwr Cymru CTA, yn edrych ar sut mae Rhwydweithiau Arloesi Cludiant diweddar wedi tanio sgwrs am ddyfodol cludiant gwledig yng Nghymru.
Drwy gydol mis Ionawr a mis Chwefror, mae CTA wedi bod yn rhedeg nifer o ddigwyddiadau i edrych ar sut gallwn wella cludiant gwledig ledled Cymru. Digwyddodd y gyfres hon rydyn ni wedi’i galw yn ‘Rhwydweithiau Arloesi Cludiant’ yn Wrecsam, Caernarfon, sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf a sir Benfro.
Mae’r digwyddiadau hyn yn rhan o’n prosiect ‘Cysylltu Cymunedau yng Nghymru’. Ei nod yw rhoi hwb mawr i gludiant cymunedol yng Nghymru. Mae’r prosiect wedi’i gefnogi gan Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Ar draws y pum digwyddiad, daethon ni ag amrywiaeth eang o randdeiliaid ynghyd i edrych ar gyfleoedd i gludiant cymunedol yng Nghymru. Roedd y partneriaid yn y digwyddiadau’n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Leol, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, cyrff cyflogaeth a hyfforddiant, cyrff iechyd a gofal cymdeithasol ac, wrth gwrs, darparwyr cludiant cymunedol.
Nod y digwyddiadau hyn oedd hwyluso perthnasoedd a chyfleoedd newydd ar gyfer cydweithredu ar draws y sector cludiant. Roedd hi’n amlwg o’r 200 o randdeiliaid a fynychodd, ac o ansawdd y sgyrsiau rhyngddyn nhw, fod rhoi sylw i faterion cludiant a mynd i’r afael ag arwahanrwydd yn uchel ar yr agenda i amrywiaeth eang o gyrff ac unigolion. Creodd y digwyddiadau gynnwrf gwych o gwmpas y materion pwysig hyn, ac roeddem yn falch o weld llawer o gysylltiadau newydd yn cael eu gwneud a fydd yn eu tro yn arwain at ragor o bartneriaethau a chydweithredu â’r sector cludiant cymunedol.
Yn ystod y sesiynau, rhoddwyd cyfle i’r cyfranogwyr drafod y bylchau sydd yn y ddarpariaeth cludiant ar hyn o bryd, yn ogystal â materion megis sut gall cludiant cymunedol gwell gynyddu mynediad at leoliadau iechyd, cyflogaeth a hyfforddiant. Hefyd, trafododd y partneriaid unigrwydd ac arwahanrwydd, gan edrych ar sut gallai prosiectau cludiant cymunedol newydd weithio i fynd i’r afael â’r materion hyn. Bu trafodaethau hefyd ar agweddau sy’n debygol o lywio dyfodol cludiant gwledig yng Nghymru fel cerbydau trydan, bwcio digidol a datblygiadau technolegol eraill.
Bydd yr holl drafodaeth hon ynghylch sut gallwn gydweithio i greu cludiant gwell i bawb, ble bynnag maen nhw’n byw, yn arwain at nifer o bartneriaethau cydweithredol a fydd yn peilota mentrau newydd ac yn gwella cysylltedd i’r rhai sy’n arunig. Byddwn ni’n edrych ar yr holl adborth a’r syniadau a gynhyrchwyd yn ystod ein taith o gwmpas Cymru er mwyn dechrau cefnogi cyrff i gydweithio ac i ddatblygu cynigion ariannu am ragor o weithgareddau a phrosiectau.
Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol dros ben ac rydym yn gyffrous bod y prosiect hwn eisoes yn gweld cynnydd gwirioneddol yn ein hymdrech i wella cludiant hygyrch a chynhwysol ledled Cymru.
-
-
- About the CTA
- /
- CT Week 23
- /
- CTA Membership
- /
- Policy & Research
- /
- Advice & Support
- /
- Training
- /
- Events
- /
- /
- Join Now