• CTA appoint Rachel Burr as their new Director for Wales

    • Blog
    • »
    • CTA appoint Rachel Burr as their new Director for Wales

    Share on:

    CTA are pleased to announce the appointment of Rachel Burr as our new Director for Wales.

    Rachel, who lives in Porthcawl, joins us from her role as Wales Campaigns Manager at Dogs Trust, and has worked in the charity sector for over 14 years in a variety of roles that aimed to influence change and support communities. During her time working for road safety charity Brake she campaigned for better and more accessible public transport options, has led national influencing work on a range of social policy topics for Citizens Advice and most recently led the Wales campaign team at Dogs Trust.

    “I am incredibly excited about the opportunity to lead the Community Transport Association’s work in Wales,” said Rachel. “I’m from a rural area and know first-hand just how poor transport links limit the social and employment opportunities for people without access to a car. I have always been in admiration of the staff and volunteers who devote their time to providing a lifeline to communities through community transport.

    “I’m motivated by opportunities to make a difference, and believe that the members of the CTA are making an enormous difference to the lives of the people they support. I’m very much looking forward to working with the CTA team and our members to support and raise awareness of this this vital work.”

    Commenting on Rachel’s appointment, Bill Freeman, CTA’s Chief Executive said:

    “I’m really pleased to welcome Rachel to the CTA team. We’re proud of the difference our members in Wales make for the communities they serve, and we were pleased to see such a strong emphasis on community transport in the Welsh Government’s consultation on their new transport strategy for Wales. Rachel’s rich experience in leading policy and campaign activities will be of huge benefit to our work in Wales as we continue to champion the benefits of transport services that are locally rooted and run by the community and make the case for more support and investment in them.”

    Rachel will be starting in her role on 07 December.

    For any media enquiries please contact Sara Robinson on 07720 634537 or sara@sararobinsoncomms.co.uk.


    Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA) yn falch o gyhoeddi penodiad Rachel Burr yn Gyfarwyddwr Cymru.

    Mae Rachel, sy’n byw ym Mhorthcawl, yn dod atom o’i rôl yn Rheolwr Ymgyrchoedd Cymru gyda’r Ymddiriedolaeth Cŵn, ac mae hi wedi gweithio yn y sector elusennol am dros 14 blynedd mewn rolau amrywiol yn ceisio dylanwadu ar newid a chefnogi cymunedau. Yn ystod ei chyfnod yn gweithio gyda’r elusen diogelwch ffyrdd Brake, bu’n ymgyrchu dros gael opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus gwell a mwy hygyrch. Mae hi wedi arwain gwaith dylanwadu cenedlaethol ar ystod o bynciau polisi cymdeithasol ar ran Cyngor ar Bopeth, ac yn ei swydd ddiweddaraf, roedd yn arwain tîm ymgyrchu Cymru yr Ymddiriedolaeth Cŵn.

    “Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i arwain gwaith y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru,” meddai Rachel. “Rwy’n dod o ardal wledig ac rwy’n gwybod o brofiad sut mae cysylltiadau cludiant gwael yn cyfyngu ar gyfleoedd cymdeithasol a gwaith i bobl nad ydynt yn gallu defnyddio car. Rwyf wastad wedi edmygu’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser i gynnal bywyd cymunedau trwy ddarparu cludiant cymunedol.

    “Mae cyfleoedd i wneud gwahaniaeth yn ysgogiad i mi, ac rwy’n credu bod aelodau’r CTA yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i fywydau’r bobl sy’n derbyn eu cymorth. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at gael gweithio gyda thîm y CTA a’n haelodau er mwyn cefnogi a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith allweddol hwn.”

    Wrth gyfeirio at benodiad Rachel dywedodd Bill Freeman, Prif Weithredwr y CTA:

    “Rwy’n hynod falch o gael croesawu Rachel i dîm y CTA. Mae’r gwahaniaeth y mae ein haelodau yng Nghymru’n ei wneud i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn destun balchder mawr i ni. Bydd profiad gwerthfawr Rachel o arwain gweithgareddau polisi ac ymgyrchu o fudd mawr i’n gwaith yng Nghymru wrth i ni barhau i hyrwyddo buddion gwasanaethau cludiant sydd wedi’u gwreiddio’n lleol ac sy’n cael eu cynnal gan y gymuned, a chyflwyno’r ddadl dros gryfhau’r gefnogaeth iddynt a’r buddsoddiad ynddynt.”

    Bydd Rachel yn cychwyn yn ei swydd ar 07 Rhagfyr. 


    Leave a reply

    Your email address will not be published. Required fields are marked *

      • Search Blog
      • /