• Hyfforddiant

  • Read in English

    Beth rydyn ni wedi’i wneud

    Rydyn ni’n cefnogi darparwyr cludiant cymunedol ledled Cymru, yn ogystal â phobl sy’n awyddus i sefydlu eu cynlluniau cludiant cymunedol eu hunain, trwy ddatblygu a darparu hyfforddiant meithrin capasiti mewn ystod eang o feysydd pwysig.

    Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar hyfforddiant gyrwyr, ond er mwyn darparu cefnogaeth ehangach i’r sector, buom yn cynnal gwaith er mwyn dod i ddeall yn llawn pa gynlluniau hyfforddi fyddai o fwyaf o gymorth i gludiant cymunedol yng Nghymru.

    Mae canlyniadau’r gwaith hwnnw wedi helpu i lunio ein rhaglen hyfforddi sydd wedi darparu amryw o lwybrau hyfforddi i bobl ar draws y sector cludiant cymunedol yng Nghymru.

    MIDAS (y Cynllun Ymwybyddiaeth Gyrwyr Bws Mini)

    Dros y 18 mis diwethaf rydym wedi cynorthwyo 134 o staff a gwirfoddolwyr cludiant cymunedol o bob rhan o Gymru i ymgymryd â hyfforddiant MiDAS, gan helpu i gynyddu capasiti ar draws y sector. Rydym hefyd wedi hwyluso Hyfforddiant Aseswyr Gyrwyr ar gyfer naw aelod o staff a gwirfoddolwyr cludiant cymunedol, gan eu galluogi i ddarparu hyfforddiant MiDAS eu hunain o fewn eu mudiad.

    Rhaglen Hyfforddi’r Hyfforddwr D1

    Mae angen i unrhyw un a gafodd eu trwydded yrru ar ôl 1997 fynd trwy hyfforddiant ychwanegol i gael hawl D1 er mwyn cael gyrru bws mini yn gyfreithlon. Mae hon yn aml yn broses gostus, felly bwriad ein rhaglen Hyfforddi’r Hyfforddwr D1 ydy hyfforddi pobl i fod yn Hyfforddwyr D1 fel y gallant ddarparu hyfforddiant D1 eu hunain. Hyd yn hyn, mae tri o bobl wedi bod trwy’r rhaglen.

    Hyfforddiant Dementia i Staff sy’n gweithio ym maes Cludiant

    Wedi’i ddatblygu’n benodol ar gyfer y sector cludiant cymunedol mewn partneriaeth â Chymdeithas Alzheimer, mae 14 o bobl wedi cael hyfforddiant i allu rhoi gwell cymorth i bobl â dementia sy’n defnyddio gwasanaethau cludiant cymunedol. Fel ein rhaglen D1, mae’r hyfforddiant hwn hefyd yn rhoi’r sgiliau i alluogi pobl i hyfforddi pobl eraill yn eu mudiad.

     Cyfeirio at hyfforddiant arall 

    Canfu ein dadansoddiad o anghenion hyfforddi’r sector cludiant cymunedol yng Nghymru ystod eang o feysydd y mae mudiadau’n chwilio am gymorth ynddynt. Yn ogystal â hwyluso’r cyrsiau hyfforddi a grybwyllwyd uchod, rydyn ni hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Busnes Cymdeithasol Cymru i gynorthwyo sefydliadau i gael cymorth ynghylch llywodraethu, sgiliau ariannol a chynllunio busnes.


    Rhagor o wybodaeth am Gysylltu Cymunedau yng Nghymru

    Mae Cysylltu Cymunedau yng Nghymru wedi derbyn cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.