-
Adnoddau
-
Read in English
Rydyn ni wedi bod yn llunio adnoddau amrywiol i gynorthwyo mudiadau sy’n darparu cludiant cymunedol, neu sydd eisiau sefydlu gwasanaethau cludiant cymunedol. Mae cynnwys yr adnoddau hyn wedi cael ei lywio gan sgyrsiau yn ein Rhwydweithiau Arloesi Cludiant yn ogystal â thrwy wrando ar yr hyn y mae’r sector yng Nghymru wedi’i ddweud wrthym ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ei hangen.
Cael Gafael ar Gyllid
Mae cyllid yn bwysicach nag erioed i ddarparwyr cludiant cymunedol, yn enwedig wrth iddynt barhau â’u hadferiad yn dilyn effeithiau’r cyfnod clo ac ail-ddechrau cynnig eu gwasanaethau. Rydyn ni mewn cyfnod heriol, felly mae wedi dod yn bwysicach nag arfer eich bod yn ailedrych ar eich ffrydiau cyllido ac yn ystyried chwilio am gyfleoedd newydd i ddod ag arian i mewn i’ch mudiad fel bod eich incwm yn dod o gyfeiriadau gwahanol.
Cynnwys
- Pwy sy’n cyllido cludiant cymunedol?
- Gair i Gall – Cyllido
- Cyflwyniadau
- Canllawiau Sut i Wneud
- Ceisiadau cyllid enghreifftiol
Pwy sy’n cyllido cludiant cymunedol?
Trwy gyfnod Covid-19, gwyddom fod o leiaf £750,000 o gyllid grantiau wedi ei roi i ddarparwyr cludiant cymunedol i helpu i liniaru effaith colli incwm, i addasu cerbydau ac i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Mae dros hanner y cyllid hwn wedi dod o Sefydliadau Cymunedol (dewch o hyd i’ch Sefydliad Cymunedol, yma). Cafwyd cymorth allweddol hefyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau. Gallwch weld rhestr o gronfeydd sydd ar agor ar hyn o bryd ac awgrymiadau ynglŷn â llefydd eraill y gallwch wneud cais am gyllid iddynt, yma.
Gair i Gall – Cyllido
Mae ein hadnoddau Gair i Gall yn becynnau cryno sy’n rhoi sylw i awgrymiadau defnyddiol i’w hystyried ar amrywiol bynciau. Gobeithio y byddant hefyd yn eich helpu i gynhyrchu syniadau cyn i chi ddechrau mynd i’r afael â mater neu faes gwaith penodol.
- Gair i Gall 1: Pwy sy’n gallu codi arian yn eich mudiad chi?
- Gair i Gall 2: Cyflwyniad Cyflym
- Gair i Gall 3: Datblygu cynnig prosiect
- Gair i Gall 4: Dadansoddiad o’r bylchau neu asesiad o anghenion
- Gair i Gall 5: Ymgynghori ac ymgysylltu â’r gymuned
- Gair i Gall 6: Astudiaethau achos gafaelgar
- Gair i Gall 7: Gosod canlyniadau eglur
- Gair i Gall 8: Monitro a gwerthuso
- Gair i Gall 9: Datblygu perthynas â chyllidwyr
- Gair i Gall 10: Cynyddu cyllid sydd heb gyfyngiadau
- Gair i Gall 11: Cyfrifo cost-effeithiolrwydd codi arian
- Gair i Gall 12: Gofynion cyfreithiol (Safonau Codi Arian)
- Gair i Gall 13: Chwilio am Gyllid
- Gair i Gall 14: Gwella eich dealltwriaeth o gyllid
Cyflwyniadau
Datblygwyd y cyflwyniadau hyn fel cymorth gweledol a chanllaw i gefnogi rhai o’n hadnoddau eraill. Maent yn tynnu sylw at awgrymiadau defnyddiol a phwyntiau i’w hystyried mewn ffordd mwy rhyngweithiol. Mae modd eu defnyddio fel canllaw cyn penderfynu pa lwybr i’w ddilyn, neu gallwch eu defnyddio gyda’ch Ymddiriedolwyr neu’ch tîm staff i fwrw goleuni ar lwybr all fod yn anodd ei droedio ar adegau. Y bwriad yw iddynt ddarparu gwybodaeth i’w hystyried wrth fynd i’r afael â mater penodol, gan helpu i gynhyrchu syniadau a chodi hyder.
- Cyflwyniad 1: Pethau i’w hystyried cyn cysylltu â chyllidwr
- Cyflwyniad 2: Datblygu achos dros dderbyn cymorth
- Cyflwyniad 3: Datblygu strategaeth codi arian
Canllawiau Sut i Wneud
Mae ein canllawiau ‘sut i wneud’ wedi’u cynllunio er mwyn eich tywys fesul cam trwy’r broses i’w dilyn wrth ymgymryd â phrosiect neu dasg newydd. Maent yn rhoi trosolwg defnyddiol o ryw agwedd benodol er mwyn rhoi cymorth wrth i chi ddatblygu eich syniad/cynllun, ac maent yn eich cyfeirio at adnoddau defnyddiol eraill.
Ceisiadau cyllid enghreifftiol
Rydym wedi creu ambell i gais enghreifftiol am gyllid er mwyn iddynt fod o gymorth i chi pan fyddwch chi’n datblygu cais eich hunan. Gall meddwl am geisio am gyllid godi braw yn aml iawn, felly gallai fod yn hwb i’ch hyder wrth gychwyn ar gynnig i gael gweld enghraifft o gais wedi’i gwblhau, sydd wedi’i deilwra ar gyfer y sector cludiant cymunedol, a gallu addasu’r testun enghreifftiol i weddu i’ch mudiad chi.
Mae gennym dempledi hefyd ar gyfer y cyllidwyr canlynol, a gallwch gael copi trwy e-bostio advice@ctauk.org:
- Templed 2: Cais am grant Arian i Bawb Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Templed 3: Cais am grant Pawb a’i Le Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Templed 4: Cais am grant Sefydliad Garfield Weston
- Templed 5: Cais am grant Sefydliad Morrisons
Rhagor o wybodaeth am Gysylltu Cymunedau yng Nghymru
Mae Cysylltu Cymunedau yng Nghymru wedi derbyn cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
-
Beth yw Cysylltu Cymunedau yng Nghymru?
Dewch i wybod mwy am y prosiect gan gynnwys ein newyddion diweddaraf a sut i gysylltu â'r tîm. -
Prosiectau a Phartneriaethau
Dysgwch sut mae Cysylltu Cymunedau yng Nghymru yn sefydlu prosiectau a phartneriaethau newydd ledled Cymru. -
Rhwydweithiau Arloesi Cludiant
Dewch i wybod mwy am ein Rhwydweithiau Arloesi Cludiant a'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu wrth siarad â darparwyr cludiant cymunedol a rhanddeiliaid ledled Cymru. -
Hyfforddiant
Manylion y rhaglenni hyfforddi sydd ar gael trwy Cysylltu Cymunedau yng Nghymru a sut y gallwch chi gymryd rhan. -
Adnoddau
Lawrlwythwch adnoddau a luniwyd gan y tîm yn ystod y prosiect.