• Rhwydweithiau Arloesi Cludiant

  •  Read in English

    Beth yw Rhwydweithiau Arloesi Cludiant?

    Mae Rhwydweithiau Arloesi Cludiant (RhAC) wedi bod yn rhan allweddol o gam cyntaf prosiect Cysylltu Cymunedau yng Nghymru. Rhwng 2018 a 2020, rydym wedi dod â darparwyr cludiant cymunedol at ei gilydd yn rheolaidd, ynghyd â chynrychiolwyr o’r sector trafnidiaeth yn ehangach, y trydydd sector, y sector preifat a’r Llywodraeth, i drafod cysylltedd a hygyrchedd ledled Cymru yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer mentrau newydd. Mae sgyrsiau yn ystod y RhACau wedi esgor ar lawer o’r prosiectau a’r partneriaethau y gallwch ddarllen eu hanes yma, yn ogystal â rhoi sylw i’r effaith anhygoel y mae cludiant cymunedol yn ei chael mewn cymaint o gymunedau ledled Cymru.

    Beth rydyn ni wedi’i ddysgu hyd yn hyn

    Yma gallwch weld rhai o uchafbwyntiau Rhwydweithiau Arloesi Cludiant blaenorol.

    Haf 2019

    Cynhaliwyd ein Rhwydweithiau Arloesi Cludiant yn 2019 yn Abertawe, Conwy a Llandrindod. Yn ogystal â chyfle i rannu gwybodaeth am y gwaith yr oedd Cysylltu Cymunedau yng Nghymru wedi’i wneud hyd hynny, roeddent hefyd yn fforymau i siarad am y cysylltiadau rhwng cludiant cymunedol a’r amgylchedd yn ogystal ag i hyrwyddo’r cynlluniau hyfforddi newydd sydd ar gael fel rhan o’r prosiect.

    Ymhlith y siaradwyr gwâdd, roedd Rod Bowen o Dolen Teifi, a soniodd am faint o gefnogaeth y mae ei fudiad wedi’i chael gan Cysylltu Cymunedau yng Nghymru; yn ogystal â Delyth Higgins o Adfywio Cymru a rannodd nodau ei mudiad a’u syniadau am gynaliadwyedd a chludiant cymunedol; a Mike Entwisle o Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys a fu’n bwrw golwg ar ddyfodol hyfforddiant D1 yng Nghymru.

    Isod, gallwch weld cyflwyniad Rod. Mae Dolen Teifi yn ddarparwr cludiant cymunedol yng Ngheredigion sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Cysylltu Cymunedau i gael gafael ar gyllid ar gyfer eu prosiect ‘Cyfle i Deithio’ yn ogystal â manteisio ar hyfforddiant gan gynnwys hyfforddiant MiDAS a D1, hyfforddiant Llywodraethu a hyfforddiant Cymorth Dementia.

    Hydref 2018

    Yn ein hail rownd o Rwydweithiau Arloesi Cludiant a gynhaliwyd yng Nghyffordd Llandudno, Y Drenewydd ac Abertawe, buom yn adeiladu ar syniadau a ffurfiwyd ar ddechrau’r prosiect. Yn y digwyddiadau, cafwyd diweddariad ar gynnydd Cysylltu Cymunedau yng Nghymru, rhoddwyd sylw manwl i’r dasg o lunio cais cyllido da ac ymunodd Trafnidiaeth Cymru â ni a rhannu eu Strategaeth Drafnidiaeth arfaethedig.

    Un o brif uchafbwyntiau’r digwyddiad hwn oedd y drafodaeth ynglŷn â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Roedd gan Drafnidiaeth Cymru syniad llawer gwell o sut y gallai cludiant cymunedol fod yn rhan o’u cynlluniau wedi’r drafodaeth hon. Roedd yn galonogol gweld bod Trafnidiaeth Cymru wedi cymryd sylw o rai o’r trafodaethau a gafwyd yn ystod y digwyddiadau, ac wedi diweddaru eu strategaeth i ystyried pwysigrwydd y sector cludiant cymunedol ledled Cymru.

    Ymhlith y siaradwyr gwâdd, roedd Trafnidiaeth Cymru, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy.

    Isod gallwch weld dau gyflwyniad a rannwyd yn y digwyddiad: golwg ar yr hyn sy’n gwneud cais gwych am gyllid gan PAVO, yn ogystal â’r diweddariad gan Trafnidiaeth Cymru.

    Gwanwyn 2018

    Cynhaliwyd ein cyfres gyntaf o ddigwyddiadau Rhwydwaith Arloesi Cludiant yng Ngwanwyn 2018 yn Wrecsam, Caernarfon, Arberth, Pontypridd a’r Fenni er mwyn gwneud yn siŵr y gallai’r ystod ehangaf o fudiadau o bob rhan o Gymru fynychu.

    Ymhob digwyddiad aethom trwy nodau’r prosiect, gan gasglu syniadau ac awgrymiadau pobl ynglŷn â sut y gallen nhw gymryd rhan, a’r ffordd orau y gallai’r prosiect eu cefnogi. Buom hefyd yn trafod ymchwil i’r ddarpariaeth cludiant cymunedol ledled Cymru, ynghyd â nodi’r meysydd cymorth yr oedd eu hangen ar y sector a’r atebion posibl y gallai’r prosiect adeiladu arnynt.

    Cafodd llawer o’r trafodaethau yn y digwyddiadau hyn effaith ar nodau a chyfeiriad y prosiect yn ei gam cyntaf.


    Rhagor o wybodaeth am Gysylltu Cymunedau yng Nghymru

    Mae Cysylltu Cymunedau yng Nghymru wedi derbyn cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.